Cymraeg: Cyweliad â’ch Swyddog Materion Cymraeg Newydd / English: Get to know your new Welsh Affairs Officer

Cymraeg

Yr wythnos ddiwethaf, penodwyd myfyrwraig Cymraeg Lauren Evans yn Swyddog Materion Cymraeg. Pleidleisiodd myfyrwyr Abertawe dros swyddogion rhan amser mewn etholiad ar-lein a fydd yn cynrychioli eu diddordebau yn ystod y flwyddyn academaidd.  Y mae’r Waterfront wedi sgwrsio gyda Lauren er mwyn gofyn am ei chynlluniau ar gyfer y flwyddyn.

1. Yn gyntaf, llongyfarchiadau ar eich rôl newydd Lauren! Beth ysbrydiolodd arnat ti i ymgeisio?

Diolch yn fawr! Rwyf yn fy mlwyddyn olaf ar hyn o bryd (yn astudio BA Cymraeg) ac ers i mi ddechrau yn y brifysgol 4 blynedd yn ôl, rwyf wedi sylwi bod yr iaith Gymraeg wedi dod yn llawer mwy cyffredin ar y campws. Yn amlwg mae cyn-swyddogion yr iaith Gymraeg wedi chwarae rolau pwysig yn y datblygiad hwnnw ac dwi’n credu ei bod hi’n bwysig sicrhau bod rhywun yn parhau eu gwaith ac yn cydweithio â’r Undeb i hybu’r iaith ymhellach.

2) Pam ydy hi’n bwysig i lenwi’r rôl?

Gan ein bod ni’n astudio yng Nghymru, mae’n allweddol gweld bod ein hiaith a’n diwylliant yn cael eu hyrwyddo. Dylai’r brifysgol gynnig cymaint o gyfleoedd cymdeithasol ac academaidd i fyfyrwyr yn y Gymraeg ag yn y Saesneg ac, wrth lenwi’r rôl hon, bydd y llais Gymraeg yn cael ei chlywed.

3) Beth yw eich cyfrifoldebau fel Swyddog Materion Cymraeg?

Fel Swyddog yr Iaith Gymraeg, un o’m prif gyfrifoldebau yw cynrychioli’r myfyrwyr Cymraeg. Felly, bydda i’n lleisio barn myfyrwyr mewn fforymau a chyfarfodydd â’r Undeb ar eu rhan. Yn ogystal â hynny, bydd yn rhaid i mi annog mwy o fyfyrwyr i ddechrau dysgu’r iaith neu ddatblygu’r sgiliau iaith sydd ganddynt yn barod.

4) Beth yw eich nôd am y flwyddyn? Beth wyt ti’n gobeithio cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?

Erbyn diwedd y flwyddyn academaidd, rwy’n gobeithio y byddaf wedi cyflawni popeth a nodwyd ar fy maniffesto (ac unrhyw beth arall sy’n codi yn y cyfamser). Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft; cydweithio ag adrannau fel Academi Hywel Teifi, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymraeg i Oedolion, Undeb y Myfyrwyr a’r Gymdeithas Gymraeg (y GymGym) i gyd-drefnu a normaleiddio digwyddiadau cyfrwng Cymraeg a gwarchod hawl myfyrwyr i gael addysg yn y Gymraeg hefyd. Rwy’n bwriadu trefnu fforymau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a mwy o wersi i fyfyrwyr sydd eisiau dechrau dysgu’r iaith. Yn ogystal â hynny, hoffwn i ychwanegu at y nifer o ddeunyddiau Cymraeg sydd ar gael yn llyfrgelloedd
y Brifysgol.

5) Sut all pobl gysylltu gyda ti?

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu trafod, gallwch e-bostio 707415@abertawe.ac.uk . Rwyf wedi creu cyfrif Trydar hefyd, lle bydda i’n trydaru am faterion Cymraeg ym mhob agwedd o fywyd Prifysgol. Dilynwch @SwyddogMCymraeg am y newyddion diweddaraf! Bydd fy manylion cyswllt yn cael eu hychwanegu at wefan yr Undeb yn ystod yr wythnosau nesaf felly dylai fod yn hawdd i chi gyd ddod o hyd i’r manylion hyn drwy’r flwyddyn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed sylwadau a syniadau pawb!

English

Last week, Welsh student Lauren Evans was appointed the Welsh affairs officer. Swansea students voted in an online election for the part-time officers that will represent their interests during the academic year. The Waterfront caught up with Lauren in order to find out about her plans for the year.

1) Firstly, congratulations on your new position Lauren! What inspired you to apply?

Thank you very much! I’m currently in my final year of studying a BA in Welsh and since I started my course at the university four years ago, I have noticed that the Welsh language has become more and more common on campus. Of course, the previous Welsh affairs officers have played an important role in this progression and I think it’s important to insure that someone continues their good work by working closely with the Union to increase its presence further.

2) Why is it important that this role exists?

Considering we’re studying in Wales, it’s essential that we promote our language and culture.  The university should provide social and academic opportunities to students in Welsh as well as English and by ensuring there is in a officer in this role, Welsh voices will be heard.

3) What are your responsibilities as the Welsh Affairs Officer?

As Welsh Affairs officer, my main responsibility is representing Welsh students by voicing their concerns and opinions at student forums and Union meetings. Furthermore, I’m committed to encouraging more students to learn the language for the first time or to develop their existing linguistic skills.

4) What’s your aim for the year and what do you hope to achieve by the end of the year?

By the end of the academic year, I hope to have achieved everything which I laid out in my manifesto (and any other issues that need addressing in the meantime). This includes things like; collaborating with university bodies such as Acaemi Hywel Teifi, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, the Welsh For Adults course, the Students’ Union and the Welsh society (y GymGym) to arrange and regulate events held through the medium of Welsh and also to protect students’ rights to receive their Education in Welsh. I intend to arrange student forums through the medium of Welsh and more lessons for those students who want to start learning the language. In addition, I want to increase the quantity of Welsh materials which are available in the library.

5) How can people get in touch with you?

If students have anything they’d like to discuss, they can email 707415@abertawe.ac.uk. Also, I’ve created a Twitter account where I’ll be tweeting about all things Welsh at the University so follow SwyddogMCymraeg for the latest news.  In addition, in the next couple of weeks, my contact details will be added to the Union website so it should be easy for everyone to get hold of me throughout the year. I’m really looking forward to hearing everyone’s thoughts and ideas.