trychineb aberfan

Pumdeg mlynedd yn ôl, ar yr 21ain o Hydref, 1966, daeth tirlithriad erchyll i lawr ar Ysgol Gynradd Pantglas a wnaeth crynu holl bentref Aberfan, a’r holl wlad. Llithrodd twmpath o slyri oedd ar ben Mynydd Merthyr i lawr a chladdu’r ysgol, gan gynnwys llawer o dai cyfagos.

Bu glowyr lleol yn taflu deunydd gwastraff glo ar ben ffynnon o dan y ddaear am tua phumdeg mlynedd cyn y trychineb. Danfonwyd llythyr gan beiriannydd dŵr DCW Jones i’r Bwrdd Glo Cenedlaethol (BGC) i gwyno am y gwastraff ym mis Orffennaf, 1963, tair blynedd cyn i’r twmpath llithro.

[fusion_builder_container hundred_percent=”yes” overflow=”visible”][fusion_builder_row][fusion_builder_column type=”1_1″ background_position=”left top” background_color=”” border_size=”” border_color=”” border_style=”solid” spacing=”yes” background_image=”” background_repeat=”no-repeat” padding=”” margin_top=”0px” margin_bottom=”0px” class=”” id=”” animation_type=”” animation_speed=”0.3″ animation_direction=”left” hide_on_mobile=”no” center_content=”no” min_height=”none”]
Ddau fachgen ifanc yn edrych ar o olion eu hysgol

Dwedodd Mr Jones yn Saesneg yn ei lythyr, “Mae’r slyri mor hylif ac mae’r graddiant mor serth, ni fydda’n bosib aros ar y safle trwy aeaf neu trwy gyfnodau o law trwm.” Anwybyddodd y BGC ei rhybudd. Yn ogystal â hyn, ar ôl i’r wybodaeth yma ddod i sylw brifathrawes yr ysgol, Mrs Ann Jennings, anfonodd hithau sawl lythyr i ddeisebu am gliriad y twmpath.

Ar ôl adeg o law trwm, daeth y deunydd gwastraff yn rhydd oddi ar y twmpath, yn dros 150,000 tunnell o slyri bwrw ochr Ysgol Gynradd Pantglas, chladdwyd dosbarthiadau o dan tua 10 medr o’r gwastraff. Bu 144 o bobl farw drwy gydol y dydd, gyda 116 o’r rhain yn blant rhwng 7 a 10 mlwydd oed. Rhuthrodd 2,000 o bobl gwasanaethau brys, glowyr a gwirfoddolwyr i’r ysgol, gan gynnwys mamau a oedd yn ceisio i gladdu trwy’r slyri yn bryderus. Chwiliwyd am dros 24 awr, ond dim ond un person wnaeth goroesi. Cafodd Jeff Edwards ei ddarganfod yn y rwbel, yr unig blentyn dal i fyw ar ôl gael ei gladdu yn yr ysgol . Ymysg yr oedolion wnaeth marw oedd prifathrawes yr ysgol, Mrs Jennings.

Ym mis Ionawr, 1967, crëwyd cronfa gan faer Merthyr Tydfil a derbyniodd deuluoedd y rhai oedd wedi colli eu bywydau tua £1.6 miliwn mewn rhoddion. Cymerwyd £150,000 o’r arian yma er mwyn clirio’r rwbel oddi’r pentref, gan ni chymerodd y BGC unrhyw gyfrifoldeb ariannol. 30 mlynedd ar ôl i hyn ddigwydd, rhoddwyd yr arian yma nôl i’r gronfa gan y Llywodraeth.

Crynodd y trychineb yma’r holl wlad ar yr adeg, ond mae’n dal i effeithio llawer o bobl heddiw. Er mwyn cofio’r digwyddiad erchyll, crëwyd rhaglen gan ITV o’r enw The Aberfan Young Wives Club, sy’n cyfleu tristwch mamau’r plant oedd wedi colli eu bywydau.

[/fusion_builder_column][/fusion_builder_row][/fusion_builder_container]

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.