Hiraeth

By Megan McNab

Beth sy’n dod i’ch meddwl pryd ydych yn gweld eisiau cartref? Efallai’r bryniau gwyrdd sy’n estyn ym mhob cyfeiriad. Neu awel y môr sy’n eich bwrw ar hyd yr arfordir. Hyd yn oed holl ffair a ffwndwr y ddinas. Beth bynnag sy’n dod i’ch meddwl, gall bob person Cymreig cytuno fod teimlad dwys hiraeth dros y wlad yr ydym yn galw ein cartref.

Pryd fyddaf i ffwrdd yn wlad bell o gartref, yn gweld holl olygfeydd prydferth sydd gan y ddaear i’w chynnig, does dim byd yn crynu’r teimlad affwysol o eisiau cartref. Gallai fod yn edrych oddi ar ben mynydd Vesuvius, a ni fyddaf yr unrhyw beth mor braf â dydd uwchben Pen y Fan. Neu’n edrych tua Moroco oddi ar Graig Gibraltar, does dim byd yn cymharu ag edrych draw i Ben Pyrod wrth gerdded ar frigau clogwyni Rhossili ar adeg pryd does dim cwmwl yn yr awyr. Hyd yn oed wrth fwyta pasta ffres yng nghanol Rhufain, gall ddim byd curo blas anhygoel picau ar y maen fam-gu. Y teimlad o weld eisiau cartref tra’n i ffwrdd o gartref yw hiraeth.

Gwariwyd ambell ŵyl haf i lawr ar lan y môr yn Ninbych y Pysgod, yn adeiladu cestyll tywod a bwyta hufen iâ wrth gerdded i lawr y promenâd cyn sgipio nôl i’r llety. Os fyddai’r tywydd digon sych, byddai pabell yn cael ei godi yn safle gwersylla ar draws y Gŵyr, neu hyd yn oed yn gwario’r dydd yn sgrechain ar roller coasters yn Oakwood. Rheini oedd y dyddiau i edrych ymlaen ati wrth eistedd trwy wersi yn yr ysgol, yn aros am ddiwrnod olaf y tymor. Y teimlad dwys o ddyhead pryd yn meddwl yn ôl i’r hyfrydwch o fod yn blentyn yw hiraeth.

Nid yw hiraeth yn derm sy’n haws i’w egluro. Does dim diffiniad penodol o beth yn gwmws yw hiraeth, ond serch hyn, mae pob person Cymreig yn ei deimlo. Gall dim byd lleihau’r teimlad angerddol o eisiau ein gwlad pryd nad ydynt ynddi. Gall dim byd cymryd i ffwrdd o’r balchder sydd gennym dros ein gwlad chwaith. Gallwn fod yn fyw ar ochr arall y ddaear, mewn gwlad brydferth, ond ni fyddai byth mwy prydferth na ein gwlad fach ni. Does dim ots ble y byddwn, neu pa mor hir ydym wedi bod i ffwrdd o Gymru, mae hiraeth yn ein bwrw ni i gyd.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.