Mis Mawrth Unwaith Eto

By Meg McNab

20170216_2338291

Chwifiwch hwyl fawr i Chwefror, mae’r gwanwyn wedi dod. Byddwn yn gweld y diwedd o’r gaeaf a’i thywydd erchyll. Fe fydd hi o hyd yn glawio – rydym yn Abertawe, wedi’r cyfan – ond gobeithio ni fydd y glaw yn pigo ein hwynebau gan ei bod hi’n mor oer, heb sôn am y gwynt sy’n ein taro gyda digon o nerth i’n fwrw ym mhob cyfeiriad.

Mawrth y cyntaf yw Dydd Gwŷl Dewi, lle mae bywyd ein Nawdd Sant yn cael ei ddathlu. Fel arfer, fe fydd ysgolion dros y wlad i gyd yn ddathlu trwy dawnsio a chanu, gwisgo i fyny yn nillad traddodiadol Gymreig gyda daffodil neu cenhinen ar flaen y wisg a llond fowlen o gawl poeth. Yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Gymraeg, rydym yn tyfu i fyny gyda hanes Dewi Sant. Ond erbyn hyn, ar ôl gadael ysgol a’r traddodiad yn y gorffennol, mae’n haws anghofio am ei hanes.

Byw bywyd syml iawn fel mynach wnaeth Dewi Sant, heb ddim eiddo heblaw am y dillad ar ei gefn. Cafodd y llysenw Dewi Ddyfrwr gan ei fod yn bwyta ac yn yfed dim byd mwy na llysiau a dŵr. Am bobl eraill oedd ef yn byw ei fywyd dros, yn dysgu ac yn helpu lle bynnag oedd ef yn gallu.  Os ydych yn Gristion neu beidio, roedd rhai o eiriau olaf Dewi yn rhai a chafodd ei hailadrodd i blant ysgol tro ar ôl dro. “Byddwch lawen a gwnewch y pethau bychain”, dyma oedd ei neges i’w gyd-mynachod cyn iddo farw. Mae’r neges yma yn berthnasol i ni gyd heddiw. Dylwn estyn llaw i’r bobl sydd angen cymorth, a byw heb chwant am eiddo materol.

Rydym ni mor brysur yn astudio neu’n joio, rydym yn anghofio i gymryd yr amser i dreulio amser gydag ein teulu a ffrindiau. Ond hyd yn oed mwy pwysig na hyn – rydym yn anghofio treulio amser ar ben ein hun. Wrth gwrs, dylem gymryd yr amser i wneud y pethau bychain dros eraill, ond dylwn wneud y pethau bychain drosom ni ein hunain yn gyntaf weithiau hefyd. Dyw hyn ddim yn hunanol, mae’n angenrheidiol am ein hiechyd ffisegol a meddyliol. Os nad ydych yn cofio Dewi ar Fawrth y cyntaf, cofiwch wneud y pethau bychain amdanoch chi.

Dymunaf Ddydd Gŵyl Dewi hapus i chi gyd!

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.