Y Gymdeithas Gymraeg

gan Mari Lois Williams

Hoffi cymdeithasu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg? Y Gymdeithas Gymraeg (GymGym) ym Mhrifysgol Abertawe yw’r Gymdeithas i chi ar gyfer Cymry Cymraeg, dysgwyr a chefnogwyr yr iaith. O bob rhan o Gymru a thu hwnt.

Profiad Personol
Pan ddes i i Brifysgol Abertawe dwy flynedd yn ôl, roedd ymuno â’r Gymdeithas Gymraeg yn hanfodol i mi ar gyfer cymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd. Ces i’r cyfle i fynd i nosweithiau cwis, tripiau Chwe gwlad i Ddulyn a Chaeredin, a chwrdd ag aelodau Cymdeithasau Cymraeg Prifysgolion eraill Cymru (a Lloegr), ac yn y Ddawns a’r Eisteddfod Rhyng-Golegol. Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnig nifer o socials megis crôls a gigs yn Nhŷ Tawe (canolfan Cymraeg y ddinas) a thripiau diwylliannol fel ymweliad hynod llwyddiannus ynghyd â’r Gymdeithas Nigeraidd i Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Caerdydd.

Llwyddiannau’r Gym deithas
Enwebiad yng nghategori y ‘Gymdeithas oedd wedi gwella fwyaf’ yng ngwobrau
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe 2016-2017
Taith lwyddiannus i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaeredin
Cymeradwyaeth uchel am ‘Ddigwyddiad Diwylliannol’ sef ymweliad ag Amgueddfa Werin Sain Ffagan ar y cyd â’r Gymdeithas Nigeraidd a myfyrwyr rhyngwladol y Brifysgol.
1 o 4 Cymdeithas i dderbyn ‘Aur’ o fewn system hanaeu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae’r gymdeithas nawr yn ‘Gymdeithas Aur’.

Sylwadau Aelodau
“Mae cymdeithasu trwy’r iaith Gymraeg yn hanfodol i fi.”

“Braf bod o amgylch Cyrmy sy’n joio siarad Cymraeg cymaint a fi.”

“Y GymGym yn ffocws gweithgaredd cymdeithasol Cymry Cymraeg y Brifysgol.”

“Y GymGym mewn 3 gair: hywl, croesawgar, teulu.”

Cynlluniau’r Gymdeithas
Mae cynlluniau’r Gymdeithas ar gyfer 2017-2018 yn cynnwys: parhau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn y Brifysgol ac yn y gymuned yn Abertawe, parhau i gefnogi gigs a gweithgareddau Tŷ Tawe, codi proffil y Gymdeithas yn y Brifysgol yn gyffredinol , a datblygu perthynas y Gymdeithas ag adrannau Cymreig eraill – Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol Abertawe ac Academi Hywel Teifi, yn ogystal â Swyddog yr Iaith Gymraeg Unbeb y Myfyrwyr a Chlwb Rygbi Tawe.

Edrychwn ymlaen i groesawu aelodau hen a newydd ym mis Medi.
Am fwy o wybodaeth
e-bostiwch: gymdeithasgymraeg@swansea-societies.co.uk
Twitter: @gymgym_abertawe
Instagram: gymgymabertawe

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.