Cymru ac Arswyd

by Lois Williams

Mae llawer o waith gwych o lenyddiaeth Gymraeg, o’r Mabinogi i waith mwy modern Roald Dahl a Dylan Thomas. Ond, genre mwy dan dô yw’r genre arswyd Cymru. Mae gymaint o awduron Gymraeg yn berchen ar y genre yma, a gan ein bod yn agosáu at Galan Gaeaf, mae’n amser edrych ar rhai ohonynt.

Un o’r awduron mwyaf poblogaidd yn y genre yw Arthur Machen. Cyhoeddwyd ei darn fwyaf poblogaidd o’r enw The Great God Pan ym 1894, gyda’i gyfeiriadau at baganiaeth yn dychryn nifer o bobl, gan gynnwys Richard Henry Stoddard, a elwodd ef yn “Too morbid to be the production of a healthy mind”. Ond mewn cyferbyniad, mae’r math yma o lenyddiaeth goruchafiaethol yn genre sy’n cael ei edmygu gan lawer o awduron eraill, gan gynnwys Stephen King (enwog am straeon arswyd fel ‘IT’ sydd wedi dod yn boblogaidd yn ddiweddar) a elwodd nofel Machen, “Maybe the best horror story in the English language”. Mae llawer o ysgrifenwyr mwy modern wedi cymryd ysbrydoliaeth gan Arthur Machen oherwydd ei ddefnydd meistrolig o arswyd.

Mae Stephen Volk hefyd yn awdur arswydus llwyddiannus yng Nghymru. Enillodd ei genre arswyd mwy modern lle iddo fel sgriptwr ar y BBC Drama, Ghostwatch. Denodd Ghostwatch llawer o’r gwynion gan aelodau’r cyhoedd, gan arwain at oddeutu 30,000 o alwadau cwyn i’r BBC oherwydd bod llawer gyda’r farn ei fod yn ‘rhy aflonyddus ar gyfer teledu’. Oherwydd hyn, ni chafodd Ghostwatch ei ailddarlledu erioed ar deledu Prydain ers ei sgrinio gyntaf ym 1992. Aeth Volk ymlaen i ysgrifennu mwy o arswyd, gan gynnwys cyfres ITV1 o’r enw Afterlife, a nifer o straeon byrion.

Gallech hefyd gyfeirio at Peter Luther, Rhoda Broughton, Rhys Hughes, Neil Spring i enwi ond ychydig yn y genre poblogaidd yma. Felly, fel y gwelwch, mae Cymru’n berchen i lawer o ysgrifenwyr arswydus gwych (ac ofnus!). Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen rhai ohonynt mewn pryd ar gyfer Calan Gaeaf!

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.