Y Gymdeithas Gymraeg

gan Mari Lois Williams

Tymor Yr Hydref

Mae’r Gymdeithas Gymraeg wedi bod yn hynod brysur yn ystod tymor yr Hydref, ac yn hynod lwyddiannus. Rydym wedi gweld cynnydd yn ein ffigurau aelodaeth ac wedi bod yn codi arian tuag at elusennau. Rydym wedi cynnal a mynychu nifer o weithgareddau yn cynnwys:

• Crôl Teulu
• Noson Cwis
• Ymuno â Chymdeithas Plaid Cymru ar gyfer noson gemau bwrdd
• Ymuno â’r Gymdeithas Ddawns yn noson ‘Strictly Come Dancing’

Un o uchafbwyntiau’r tymor diwethaf oedd y Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth. Roedd hyn yn gyfle gwych i’r Gymdeithas Gymraeg gwrdd â Chymdeithasau Cymraeg eraill Cymru a thu hwnt, yn cynnwys Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Y Drindod Dewi Sant a Lerpwl. Mae merched y Gymdeithas wedi bod yn brysur yn sefydlu Tîm Pêl-rwyd merched iaith Gymraeg y Brifysgol dros y misoedd diwethaf. Mae’r tîm wedi mynd o nerth i nerth ac wedi chwarae yn erbyn tîm ‘intramural’ Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. Hoffai’r tîm ddiolch i Gangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Academi Hywel Teifi am eu cefnogaeth hyd yn hyn. Os hoffech ymuno â’r tîm, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost at ygymdeithasgymraeg@swansea-societies.co.uk
Mis Rhagfyr

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth y Gymdeithas Gymraeg gynnal nifer o weithgareddau cymdeithasol yn cynnwys taith flynyddol i fod yn rhan o gynulleidfa rhaglen ‘Jonathan’ ar S4C, a chrôl cymeriadau. Dros y ddwy flynedd diwethaf mae’r Gymdeithas wedi bod yn mynychu cinio capel gyda Chapel Gomer. Y flwyddyn yma fe wnaeth rhai o’n haelodau wneud darlleniadau ac eitemau yng nghinio Nadolig Capel Gomer a gynhelir ar Ragfyr y 3ydd yn Nhŷ Tawe.

Fe wnaeth Gymdeithas hefyd cynnal digwyddiad hollol newydd ar gyfer y Nadolig eleni, sef Dawns y Nadolig. Bwriad y ddawns oedd rhoi’r cyfle i fyfyrwyr a holl gymdeithasau Cymraeg y Brifysgol i ddod at ei gilydd i gymdeithasu cyn gwyliau’r Nadolig.

Beth i ddisgwyl tymor yma:

• Trip chwe gwlad i Ddulyn
• Crôl Pub Golf
• Taith Big Pit
• Crôl SgymGym
• A llawer mwy!

Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gyffrous am dymor arall o gymdeithasu a chydweithio gyda chymdeithasau eraill y flwyddyn yma.

Trydar: gymgym_abertawe
Instagram: gymgymabertawe

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.