Gym Gym (Gymdeithas Gymraeg)

by Rebecca Martin, translated by Meg McNab

 Ar y 25ain o Fawrth, 2017, fe wnaeth Y Gymdeithas Gymraeg cynnal digwyddiad a oedd yn gwbl newydd i’r gymdeithas. Trefnwyd trip am fyfyrwyr rhyngwladol i St. Fagans, Amgueddfa Werin Cymru, lle bu dros bedwardeg adeilad o ganrifoedd amrywiol dros Gymru i gyd eu hailgodi yn un man.

Cynhwysodd y grŵp o genedligrwydd gwahanol a oedd i gyd yn awyddus i ddysgu am ddiwylliant a thraddodiadau Cymry. Roedd gan bob myfyriwr lefel gwahanol o wybodaeth am hanes Cymru – yn amrywio o’r rhai oedd yn gwybod ychydig i ddim o gwbl, i’r rhai oedd eisiau gwybod mwy am hanes eu gwlad.

Bwriad y trip oedd hyrwyddo hanes Cymru a’i draddodiadau i eraill, gan hefyd dod â myfyrwyr o wahanol gefndiroedd diwylliannol gyda’i gilydd. Gobaith y gymdeithas oedd datblygu perthynas agosach rhwng cymdeithasau diwylliannol a myfyrwyr rhyngwladol yn gyffredinol, er mwyn sicrhau digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Hoffai’r Gymdeithas Gymraeg estyn diolch fawr i’r Undeb Fyfyrwyr, Alun Bryn (Swyddog yr Iaith Gymraeg) a Tŷ Tawe am y cymorth ariannol – ni fyddai’r trip wedi cael ei gwblhau heb eich haelioni. Hoffai’r gymdeithas hefyd estyn diolch i Stuart Grey am y cymorth parhaol am y trip i fynd ymlaen – roedd ei gydweithrediad gyda’r gymuned am gynllunio a hyrwyddo’r digwyddiad yn hanfodol am drip llwyddiannus.

Mae’r Gymuned Gymraeg yn gobeithio bod pob myfyriwr a mynychodd y trip wedi cael amser bendigedig, fe fyddwn yn eich gweld chi i gyd yn y dyfodol agos. Diolch!

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.