“Adre, adre, am y cynta Hwch Ddu Gwta gipio’r ola”

by Keziah O’Hare

Er bod Noson Calan Gaeaf yn draddodiad sy’n mynd yn ôl i’r oed Celtiaid, yn ddiweddar, mae rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dathlu hi fel yr Americanaidd a’r gweddill o Brydain.

Gwisgo dillad a cholur i edrych fel cymeriadau ofnus i ddychryn pobl. Am blant, i fynd o ddrws i ddrws am losin ac am oedolion (wel, myfyrwyr yn benodol) mae’n esgus i gael parti. Serch hynny, os i chi’n edrych at y traddodiadau gwreiddiol o Noson Calan Gaeaf, byddwch chi’n falch am unwaith bod ni’n ymuno efo pawb arall a’r ‘Halloween’ modern.

Noson Tân Gwyllt yw’r dathliad mae pobl yn cysylltu efo coelcerthi ond roedd y traddodiad yma wedi dechrau efo Noson Calan Gaeaf. Roedd teuluoedd yn adeiladu un tu allan yn yr ardd a bydden nhw’n ysgrifennu eu henwau ar garreg am bob unigolyn ac yn osod nhw ar ymyl y goelcerth. Wrth iddyn nhw ddeffro yn y bore, bydden nhw’n chwilio am y garreg efo’i henwau. Os bydd carreg wedi’i golli, bydd y person efo’r enw ar y garreg goll yn marw cyn i’r flwyddyn benni. Byddai’n hapus i ddim gwybod, diolch!

Roedd y goelcerth yn gyfrifol am fwy na rhagfynegi’r farwolaeth yn y pentrefi. Dwedwyd bod yr Hwch Ddu Gwta (ceisio i ddweud hynny 5 gwaith yn gyflym), mochyn ysbrydol efo cynffon byr, yn ymrithio o’r gwreichion olaf y goelcerth. Wrth ddarllen, gallwch chi gredu bod hynny’n iawn, beth gall mochyn gwneud? Yn anffodus, roedd y person olaf i adael y goelcerth neu unigolyn sy’n cerdded o gwmpas yr ardal trwy’r noson, yn dod ar draws yr Hwch Ddu Gwta, a bydd hi’n cipio, lladd neu fwyta’r druan oedd yn ddigon twp i anwybyddu mam-gu a’i straeon. Mae yna rigwm i rybuddio pobl am weithradau sinistr y mochyn:

“Adre, adre, am y cynta

Hwch Ddu Gwta gipio’r ola.”

Mae hynny’n ddigon i greu ofn mewn unrhyw un. Bydd hi’n draed moch os bydd yr Hwch Ddu Gwta yn eich cael.

Mae’r traddodiadau yma yn dystiolaeth o’r obsesiwn mae’r Cymry gydag efo’r goruwchnaturiol a’r ofergoelion sy’n mynd gyda nhw. Maent yn bwysig i gofio, ond, mae’n wir i ddweud bod nhw’n eithaf gwallgof ac anesmwyth.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.