Rydym fel cymdeithas wedi cael tymor brysur a llwyddiannus yn ystod yr Hydref, gan gynnal nifer o ddigwyddiadau hwylus a gwahanol i’n aelodau. Cododd ein ffigwr aelodaeth gan 27% o’i gymharu a llynedd felly rydym yn falch o weld bod Cymraeg y Brifysgol dal ar gynnydd! Os nad ydych wedi cael y cyfle i ymuno â ni eto, ac eisiau gwybod pa fath o ddigwyddiadau rydym yn cynnal, dyma i chi enghreifftiau o’r tymor dwethaf:

  • Crôl Teulu
  • Noson Bowlio Deg
  • Cwis Cymraeg
  • Cystadleuaeth pêl-rwyd yn erbyn Clwb Rygbi Tawe i godi arian tuag at achos Movember.

Rydym fel cymdeithas yn anelu at gwrdd tair waith y mis gan gynnal teithiau, crôls a sosials gwahanol, felly os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni, neu eisiau gofyn cwestiwn ynglyn â’r gymdeithas, anfonwch e-bost at ygymdeithasgymraeg@swansea-societies.co.uk.

Aethom ar daith i’r Ddawns Rhyng-golegol ym mis Tachwedd â chynhelir yn Aberystwyth. Ar fore Ddydd Sadwrn fe wnaethom gystadlu yng nghystadleuaeth pêl-droed 6-yr-ochr yn erbyn timoedd Prifysgolion Caerdydd, Aberystwyth a Bangor; roedd gofyn i bob tîm fod yn gymysg o fechgyn a merched fel bod cyfle teg i bawb chwarae. Yna fe aethom i’r Ddawns yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar y Nos Sadwrn, er mwyn cymdeithasu gyda aelodau o gymdeithasau Cymraeg Prifysgolion eraill o Gymru, tra’n gwrando i ganeuon Cymraeg gan Cledrau, Elis Derby a llawer mwy.

Mis Rhagfyr

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth tîm pêl-rwyd y merched chwarae gem hwylus yn erbyn bechgyn Clwb Rygbi Tawe er mwyn codi arian tuag at achos Movember. Dyma un enghraifft o’n hymdrech i godi arian at elusen, ac rydym yn gobeithio cael y cyfle i greu digwyddiad tebyg eto er mwyn codi arian tuag at achos dda arall. Hoffwn fel cymdeithas estyn diolch i’r Swyddog Materion Cymraeg, Megan Colbourne, am ei hydrech i’n hyfforddi i chwarae pêl rwyd yn ystod y tymor ac i Elin Leyshon am ddyfarnu’r gem.

Cawsom wahoddiad gan Capel Gomer i ymuno â nhw yn eu cinio Nadolig blynyddol yn Nhŷ Tawe eto eleni, felly hoffwn ddweud diolch enfawr i aelodau Capel Gomer am y gwahoddiad ac am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn, rydym fel cymdeithas yn hynod ddiolchgar.

Digwyddiadau’r tymor hon:

  • Trip y chwe gwlad i Ddulyn ym mis Chwefror
  • Crôl cymeriadau
  • Taith i wylio rhaglen Jonathan yn fyw
  • Noson foot golf

Rydym fel cymdeithas yn edrych ymlaen at y sosials sydd i’w ddod yn ystod y tymor ac yn gobeithio y byddwn yn eich gweld chi yn rhai o’n digwyddiadau. Cofiwch, nid yw’n rhy hwyr i ymuno yn yr hwyl!

Dilynwch ni ar:

 

Facebook: Gym Gym Abertawe

Trydar: gymgym_abertawe

Instagram: gymgymabertawe

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.